Back to News

Aros yn ddiogel Posted or Updated on 11 Jan 2024

Aros yn ddiogel yn ein hysbytai a’n safleoedd cymuned

Mae gennym wybodaeth bwysig i rannu gyda chi cyn i chi ddod i ymweld â ni.

Fel gweddill y GIG, ein blaenoriaeth oedd bod y rhai a oedd angen gofal brys, p’un a oedd yn ymwneud â coronafirws (COVID-19) neu beidio, wedi gallu cael y gofal hwnnw mor gyflym a diogel â phosibl. Er mwyn lleihau lledaeniad y firws, roedd yn rhaid i ni ohirio rhai apwyntiadau a llawfeddygaeth nad oeddent yn frys. Mae nifer y cleifion rydym yn eu trin gyda COVID-19 ar draws Gogledd Cymru yn gostwng. Golyga hyn y gallwn ail ddechrau rhai o’n gwasanaethau wyneb wrth wyneb, ond ble gellir gwneud hyn yn ddiogel yn unig.

Beth mae hyn yn ei olygu i chi? Gan eich bod wedi cael eich gwahodd i apwyntiad wyneb wrth wyneb, mae angen i ni ddweud wrthych am rai newidiadau rydym wedi’u cyflwyno i helpu i’ch cadw’n ddiogel. Pan fyddwch yn ymweld ag un o’n safleoedd ar gyfer eich apwyntiad, bydd gofyn i chi:

  • Wisgo gorchudd wyneb neu fasg os oes gennych un. Er nad yw’n orfodol mewn mannau cyhoeddus, rydym yn eich annog i wisgo un os yw’n bosibl. Os nad oes gennych fasg neu orchudd wyneb, fe allwn ddarparu masg wyneb i chi pan fyddwch yn dod i mewn i’n hadeilad.
  • Cynnal hylendid dwylo da - bydd golchwr dwylo’n cael ei ddarparu wrth y fynedfa ac yn rheolaidd drwy ein safleoedd.
  • Cadwch bellter diogel oddi wrth gleifion eraill ac oddi wrth staff ble bo’n bosibl. Os na allwch gadw pellter, gwisgwch fasg neu orchudd wyneb
  • Dilynwch yr arwyddion sy’n rhoi cyfarwyddyd ar beth i’w wneud a ble i aros

Yn dibynnu ar ble rydych yn ymweld, efallai y byddwn yn gofyn i chi:

  • Ddangos cadarnhad o’ch apwyntiad cyn i chi gael dod i mewn i’n hadeilad a/neu adrannau.
  • Ddilyn systemau un ffordd ddynodedig os oes rhai ar waith
  • Cadwch i’r chwith bob amser ar bellter diogel wrth i chi gerdded ar hyd y prif goridorau
  • Defnyddiwch y grisiau yn hytrach na’r lifft ble bo’n bosibl. Rydym yn cyfyngu ar nifer y bobl sy’n defnyddio ein lifftiau ac yn blaenoriaethu’r rhai sydd angen eu defnyddio.
  • Ewch i’ch apwyntiad ar eich pen eich hun os gallwch chi. Os oes arnoch angen dod â rhywun gyda chi, cadwch hyn i gyn lleied â phosibl.

Beth os ydych yn cysgodi?

Os ydych mewn mwy o berygl o gymhlethdodau os byddwch yn dal COVID-19, ond mae angen i chi ddod i’r ysbyty neu glinig cymuned ar gyfer gofal wedi’i drefnu, byddwn yn rhoi cynllun ac amddiffyniad ychwanegol ar waith i chi. Gall hyn gynnwys eich gweld mewn man ar wahân a defnyddio cyfarpar amddiffynnol personol (PPE) megis gorchuddion wyneb ayb. Peidiwch â phoeni gan y byddwn yn trafod hyn gyda chi o flaen llaw.

O ble y cewch fwy o wybodaeth?

Os oes gennych fwy o gwestiynau am eich apwyntiad a’r newidiadau rydym wedi’u gwneud i’n gwasanaethau, edrychwch ar wefan bipbc.gig.cymru neu cysylltwch ag aelod o’r tîm apwyntiadau. Gellir dod o hyd i’w manylion cyswllt ar eich llythyr.

Gallwch hefyd gysylltu â’n gwasaneth Cyngor a Chefnogaeth i Gleifion (PALS) ar 03000 851234.

Yn olaf…

Mae ein staff yn parhau i weithio’n galed iawn i ymateb i’r pandemig COVID-19 ac i sicrhau diogelwch ac ansawdd ein gwasanaethau ar gyfer yr holl gleifion.

Wrth i ni yn awr baratoi at gynyddu rhai gwasanaethau wyneb wrth wyneb yn raddol, ond ble gellir gwneud hynny’n ddiogel yn unig, hoffem ddiolch i chi am eich amynedd a’ch dealltwriaeth.

Cofiwch ddod ag unrhyw feddyginiaeth cyfredol gyda chi i’ch apwyntiad.

Local Services
Macmillan
Cancer Support
Motability
Hearing Aids
Your Service
Here